Mae ein hymgynghoriad ar y cynigion manwl bellach wedi cau. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd amser i ymweld â’n harddangosfeydd rhithwir a chyhoeddus a rhoi eu hadborth i ni. Gallwch barhau i gael mynediad at yr holl wybodaeth drwy’r wefan hon.
Darparodd yr ymgynghoriad statudol y cyfle i chi archwilio’r cynlluniau a darparu eich sylwadau / ymatebion i’w hystyried gan Pennant Walters a thîm y prosiect cyn i’r cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) gael ei gwblhau. Cyflwynwyd y cais i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) i’w ystyried cyn i Weinidogion Cymru benderfynu arno.
Gweler y Dogfennau cais drafft yma.
Cynhaliom 3 arddangosfa gyhoeddus er mwyn i bobl ddarganfod mwy a thrafod y cynigion ag aelodau o dîm y prosiect ac i weld y ffotogyfosodiadau. Y digwyddiadau oedd:
Amseroedd | Dyddiadau | Lleoliadau |
---|---|---|
3yp – 7yh | Dydd Mercher 15 Mehefin | Eglwys y Bedyddwyr Ebenezer, Park Place, Abertyleri, NP13 1ED |
10yb – 2yp | Dydd Sadwrn 18 Mehefin | Canolfan Addysg Gymunedol Cwm, Stryd Canning, Cwm, Glyn Ebwy, NP23 7RD |
3yp – 7yh | Dydd Mawrth 21 Mehefin | Canolfan Gymuned Aber-big, Heol Pant ddu, Abertyleri, NP13 2BP |
Os nad oeddech yn gallu mynychu’r arddangosfeydd cyhoeddus, mae gennym hefyd arddangosfa rithwir, gyda’r opsiwn o wrando ar y testun wrth edrych ar y byrddau.
Fel arall, mae’r byrddau arddangos hefyd ar gael i’w gweld fel ffeiliau PDF y gellir eu lawr lwytho ac y gellir eu gwneud yn fwy neu’n llai yn ôl dewis personol.
Gallwch hefyd weld y ffotogyfosodiadau sy’n dangos sut olwg fyddai ar y Fferm Wynt o wahanol olygfannau yma.
Er bod yr ymgynghoriad ar gau gallwch gysylltu â ni o hyd gan ddefnyddio’r manylion ar y dudalen cysylltwch â ni.
Diogelu Data
Bydd data personol a gyflwynir i ni trwy’r ymgynghoriad yn cael ei storio o dan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol ac ni fyddant yn cael eu rhannu â thrydydd parti y tu allan i Grasshopper Communications Limited neu Pennant Walters. Gallwch ofyn i’ch manylion gael eu tynnu ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni gan ddefnyddio’r manylion ar y dudalen cysylltu â ni.