Safle

Byddai’r fferm wynt arfaethedig wedi’i lleoli ar grib ucheldirol rhwng cymoedd Ebwy Fawr ac Ebwy Fach, yn ardaloedd Hafod y Dafal a Chefn yr Arail.

Fel y’i diffinnir ar hyn o bryd, mae’r safle’n cwmpasu oddeutu 208 hectar, sef glaswelltir yn bennaf a ddefnyddir i’w bori.

Fe’i rhennir gan y ffordd gludo coedwigaeth, coetir a Fferm Ynni’r Haul gweithredol Hafod-y-Dafal (28.6 hectar).  Ceir mynediad o ffordd gludo coedwigaeth, ac mae hon yn cysylltu â Ffordd Aber-big, A4046.

Mae coridor y cysylltiad â’r grid i’r gorllewin o’r safle yn hawlio cyfanswm o 27.4 hectar.