Mae Pennant Walters yn datblygu Fferm Wynt Mynydd Carn-y-Cefn ym Mlaenau Gwent

11 Mawrth 2024 – CANIATÂD CYNLLUNIO WEDI EI ROI

Yn dilyn y broses archwilio, argymhellodd yr Arolygydd ‘rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad gydag amodau.’

Yn dilyn adolygiad o adroddiad yr Arolygydd, rhoddodd Julie James AS/MS, y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, ganiatâd cynllunio gydag amodau.

Rwy’n cytuno ag arfarniad yr Arolygydd o’r prif ystyriaethau, casgliadau’r adroddiad a’r rhesymeg y tu ôl iddynt, a derbyniaf yr argymhelliad. Felly, rwyf drwy hyn yn rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer DNS/3270299, yn ddarostyngedig i’r amodau yn yr Atodiad i’r llythyr penderfyniad hwn.”

Gellir gweld copi o adroddiad yr Arolygydd a llythyr penderfyniad Julie James ar wefan PEDW: https://planningcasework.service.gov.wales/case

2 Awst 2023 – HYSBYSIAD O SESIYNAU GWRANDAWIAD

Hysbysir trwy hyn y bydd Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru, sef Melissa Hall BA(Anrh), BTP, MSc, MRTPI, yn cynnal Sesiynau Gwrandawiad ar:

Ddydd Mercher 30 Awst 2023 am 10:30 (Sesiwn 1) a 14:00 (Sesiwn 2) a
Dydd Mercher 13 Medi 2023 am 10:30 (Sesiwn 3)

Cynhelir y Sesiynau hyn yn rhithwir trwy Microsoft Teams.

Diben y Gwrandawiadau yw i’r Arolygydd glywed tystiolaeth ynglŷn â’r canlynol: Cymeriad a Golwg (Sesiwn Wrandawiad 1), Amodau Cynllunio (Sesiwn Wrandawiad 2) a Materion Eraill (Sesiwn Wrandawiad 3).

Sylwer, er bod y cyhoedd yn gallu arsylwi’r digwyddiadau, dim ond y rhai hynny a wahoddwyd yn benodol gan yr Arolygydd sydd â’r hawl i gymryd rhan. Dylai unrhyw un sy’n dymuno arsylwi’r achos gyflwyno cais i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) erbyn dydd Mercher 16 Awst 2023 gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod yr Hysbysiad hwn. Gwnewch yn siŵr fod yr holl ohebiaeth yn dyfynnu cyfeirnod y Cais – DNS/3270299 – Fferm Wynt Mynydd Carn-y-Cefn

Cliciwch yma i weld yr Hysbysiad Statudol.

28 EBRILL 2023: DIWEDDARIAD AR GYFNOD PENDERFYNU PEDW

Mae’r cyfnod penderfynu wedi’i ohirio ymhellach oherwydd cais ffurfiol o dan Reoliad 15(2) o’r Rheoliadau DAC am ragor o wybodaeth gan yr Ymgeisydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Bydd y gohiriad yn parhau am 10 wythnos er mwyn caniatáu amser ar gyfer cyflwyno gwybodaeth ychwanegol ac i ganiatáu i PEDW gynnal cyfnod cyhoeddusrwydd ac ymgynghori o 5 wythnos mewn perthynas â’r wybodaeth ychwanegol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw dydd Mercher 17 Mai a bydd y wybodaeth ychwanegol a gyflwynir ar gael ar y Porth Gwaith Achos Cynllunio dan gyfeirnod ‘3270299’ ar y ddolen ganlynol: https://planningcasework.service.gov.wales/

Bydd y cyfnod o 5 wythnos ar gyfer cyflwyno sylwadau yn dod i ben ddydd Mercher 28 Mehefin, a dyna hefyd pryd y bydd y cyfnod penderfynu yn ailddechrau.


Yn dilyn yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd rhwng 24 Mai ac 8 Gorffennaf 2022, mae Pennant Walters wedi cyflwyno ei gynigion ar gyfer fferm wynt Mynydd Carn-y-Cefn – a leolir i’r gorllewin o Abertyleri o fewn ffin weinyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (BGCBC).

Mae’r ymatebion i’r ymgynghoriad wedi’u dogfennu, eu hystyried a gweithredu arnynt fel y bo’n briodol gan dîm y prosiect, a gwnaed y diwygiadau a ganlyn i’r cynigion, gan gynnwys:

  • Gweithredu mesurau lliniaru priodol ar ffurf cwtogi ar rai tyrbinau i leihau’r risg i ystlumod.
  • Cynnal arolygon pathewod.
  • Ail-dynnu lluniau 21, 22 a 23 oherwydd niwl atmosfferig.
  • Mae gwaith asesu risg mwyngloddio desg arbenigol pellach wedi’i gomisiynu i lywio’r cam cyn-adeiladu.
  • Mae cynllun lliniaru wedi’i gytuno gyda Cadw, sydd bellach yn rhan o’r dogfennau cais a chaiff ei roi ar waith i liniaru unrhyw effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd hanesyddol.

Mae’r cais bellach gyda Phenderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) a bydd yn cael ei ystyried gan Arolygydd cyn i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud gan Weinidogion Cymru.

Gall unrhyw un sy’n dymuno gweld y cais wneud hynny drwy chwilio rhif cyfeirnod ‘3270299’ yn https://planningcasework.service.gov.wales/. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 4 Ionawr 2023.

Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol

Gan y bydd y fferm wynt arfaethedig yn cynhyrchu mwy na 10MW o drydan fe’i diffinnir fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS).

Mae hyn yn golygu y bydd y cais cynllunio yn cael ei gyflwyno i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru a’i ystyried gan Arolygydd gyda’r penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru.

Er mai Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu ar gais y fferm wynt yn y pen draw, mae CBSBG a’r cymunedau lleol yn ymgyngoreion allweddol, ac rydym yn awyddus i glywed eich barn ar y cynigion.

Ynglŷn â Pennant Walters

Datblygir y cynigion gan Pennant Walters, is-gwmni i Walters Group; cwmni lleol sydd wedi’i leoli yn Hirwaun ac yn gweithredu’n genedlaethol. Mae Pennant Walters wedi datblygu, adeiladu a bellach yn gweithredu chwech o ffermydd gwynt a datblygiadau ynni’r haul yn Ne Cymru  (ar dir sy’n nodweddiadol iawn o faes glo de Cymru gyda nodweddion mwyngloddio arwyneb a thanddaearol ), gan gynhyrchu cyfanswm o 127MW, sy’n golygu mai hwn yw datblygwr ynni adnewyddadwy cartref mwyaf Cymru.

Mae Pennant Walters wedi ymrwymo i hysbysu, ymgysylltu ac ymgynghori drwy’r broses ddylunio a chynllunio, i sicrhau bod cymunedau lleol a rhanddeiliaid yn cael cyfle i gyfrannu eu barn a helpu i lunio’r cynigion sy’n dod i’r amlwg.

Cefnogaeth polisi

Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd a chyhoeddodd ei Dyfodol Cymru: Y cynllun Cenedlaethol 2040, a fabwysiadwyd ar ddechrau 2021. Mae safle Mynydd Carn-y-Cefn yn gorwedd o fewn Ardal a Aseswyd ymlaen llaw ar gyfer darparu ffermydd gwynt.

Ym mis Medi 2020, cyhoeddodd CBSBG argyfwng hinsawdd yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn asesu ei botensial i gynhyrchu ynni adnewyddadwy fel rhan o’i Cynllun Datblygu Lleol Newydd sydd ar ddod ac sydd i’w fabwysiadu yn hydref 2022.