Ein cynigion ar gyfer Fferm Wynt Mynydd Carn-y-Cefn yw:
- hyd at wyth tyrbin gwynt â llafnau sydd ag uchder llafn o hyd at 180m
- adeiladau is-orsaf a thrawsnewidydd
- llecyn adeiladu dros dro a swyddfeydd y safle
- padiau craeniau, mannau storio a cheblau
- adeiladu trac mynediad
Bydd angen cydsyniad eilaidd i ddargyfeirio tri hawl tramwy cyhoeddus pan fydd y fferm wynt yn cael ei hadeiladu a phan fydd yn weithredol. Rhagwelir y bydd angen cydsyniadau eilaidd hefyd ar gyfer symud dodrefn priffyrdd dros dro i ganiatáu cludo tyrbinau i’r safle.
Mae gwaith iteru’r dyluniad wedi’i ddylanwadu gan swm helaeth o waith asesu ac arolygu ynghyd â modelu golygfeydd posibl o dderbynyddion sensitif lleol i leihau effeithiau posibl.
Mae tîm y prosiect yn hyderus y gall y safle gynnwys wyth tyrbin gwynt, a allai gynhyrchu hyd at 34MW o drydan. Mae’r Fferm Wynt wedi’i dylunio gydag oes weithredol o 30 mlynedd, gan allforio ynni adnewyddadwy i’r Grid Cenedlaethol.
Mae cynnig o gysylltiad â’r grid gan Western Power Distribution (WPD) wedi’i dderbyn. Bydd llinell 33kV rhwng yr is-orsaf ar y safle a’r grid trydan yng Nghrymlyn yn destun cais ar wahân.